Marc 7:36-37 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

36. Ac efe a waharddodd iddynt ddywedyd i neb: ond po mwyaf y gwaharddodd efe iddynt, mwy o lawer y cyhoeddasant.

37. A synnu a wnaethant yn anfeidrol, gan ddywedyd, Da y gwnaeth efe bob peth: y mae efe yn gwneuthur i'r byddariaid glywed, ac i'r mudion ddywedyd.

Marc 7