Marc 7:19-30 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

19. Oblegid nid yw yn myned i'w galon ef, ond i'r bol; ac yn myned allan i'r geudy, gan garthu'r holl fwydydd?

20. Ac efe a ddywedodd, Yr hyn sydd yn dyfod allan o ddyn, hynny sydd yn halogi dyn.

21. Canys oddi mewn, allan o galon dynion, y daw drwg feddyliau, torpriodasau, puteindra, llofruddiaeth,

22. Lladradau, cybydd‐dod, drygioni, twyll, anlladrwydd, drwg lygad, cabledd, balchder, ynfydrwydd:

23. Yr holl ddrwg bethau hyn sydd yn dyfod oddi mewn, ac yn halogi dyn.

24. Ac efe a gyfododd oddi yno, ac a aeth i gyffiniau Tyrus a Sidon; ac a aeth i mewn i dŷ, ac ni fynasai i neb wybod: eithr ni allai efe fod yn guddiedig.

25. Canys pan glybu gwraig, yr hon yr oedd ei merch fechan ag ysbryd aflan ynddi, sôn amdano, hi a ddaeth ac a syrthiodd wrth ei draed ef:

26. (A Groeges oedd y wraig, Syroffeniciad o genedl.) A hi a atolygodd iddo fwrw'r cythraul allan o'i merch.

27. A'r Iesu a ddywedodd wrthi, Gad yn gyntaf i'r plant gael eu digoni: canys nid cymwys yw cymryd bara'r plant, a'i daflu i'r cenawon cŵn.

28. Hithau a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Gwir, O Arglwydd: ac eto y mae'r cenawon dan y bwrdd yn bwyta o friwsion y plant.

29. Ac efe a ddywedodd wrthi, Am y gair hwnnw dos ymaith: aeth y cythraul allan o'th ferch.

30. Ac wedi iddi fyned i'w thŷ, hi a gafodd fyned o'r cythraul allan, a'i merch wedi ei bwrw ar y gwely.

Marc 7