Marc 7:1-4 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Yna yr ymgasglodd ato y Phariseaid, a rhai o'r ysgrifenyddion a ddaethai o Jerwsalem.

2. A phan welsant rai o'i ddisgyblion ef â dwylo cyffredin (hynny ydyw, heb olchi,) yn bwyta bwyd, hwy a argyhoeddasant.

3. Canys y Phariseaid, a'r holl Iddewon, oni bydd iddynt olchi eu dwylo yn fynych, ni fwytânt; gan ddal traddodiad yr hynafiaid.

4. A phan ddelont o'r farchnad, oni bydd iddynt ymolchi, ni fwytânt. A llawer o bethau eraill y sydd, y rhai a gymerasant i'w cadw; megis golchi cwpanau, ac ystenau, ac efyddynnau, a byrddau.

Marc 7