Marc 4:21-24 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

21. Ac efe a ddywedodd wrthynt, A ddaw cannwyll i'w dodi dan lestr, neu dan wely? ac nid i'w gosod ar ganhwyllbren?

22. Canys nid oes dim cuddiedig, a'r nis amlygir; ac ni bu ddim dirgel, ond fel y delai i eglurdeb.

23. Od oes gan neb glustiau i wrando, gwrandawed.

24. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Edrychwch beth a wrandawoch. A pha fesur y mesuroch, y mesurir i chwithau; a chwanegir i chwi, y rhai a wrandewch.

Marc 4