18. Ac Andreas, a Philip, a Bartholomeus, a Mathew, a Thomas, ac Iago fab Alffeus, a Thadeus, a Simon y Canaanead,
19. A Jwdas Iscariot, yr hwn hefyd a'i bradychodd ef. A hwy a ddaethant i dŷ.
20. A'r dyrfa a ymgynullodd drachefn, fel na allent gymaint â bwyta bara.
21. A phan glybu'r eiddo ef, hwy a aethant i'w ddal ef: canys dywedasant, Y mae ef allan o'i bwyll.
22. A'r ysgrifenyddion, y rhai a ddaethent i waered o Jerwsalem, a ddywedasant fod Beelsebub ganddo, ac mai trwy bennaeth y cythreuliaid yr oedd efe yn bwrw allan gythreuliaid.
23. Ac wedi iddo eu galw hwy ato, efe a ddywedodd wrthynt mewn damhegion, Pa fodd y gall Satan fwrw allan Satan?
24. Ac o bydd teyrnas wedi ymrannu yn ei herbyn ei hun, ni ddichon y deyrnas honno sefyll.
25. Ac o bydd tŷ wedi ymrannu yn ei erbyn ei hun, ni ddichon y tŷ hwnnw sefyll.
26. Ac os Satan a gyfyd yn ei erbyn ei hun, ac a fydd wedi ymrannu, ni all efe sefyll, eithr y mae iddo ddiwedd.
27. Ni ddichon neb fyned i mewn i dŷ'r cadarn, ac ysbeilio ei ddodrefn ef, oni bydd iddo yn gyntaf rwymo'r cadarn; ac yna yr ysbeilia ei dŷ ef.
28. Yn wir y dywedaf i chwi, y maddeuir pob pechod i feibion dynion, a pha gabledd bynnag a gablant:
29. Eithr yr hwn a gablo yn erbyn yr Ysbryd Glân, ni chaiff faddeuant yn dragywydd, ond y mae yn euog o farn dragywydd:
30. Am iddynt ddywedyd, Y mae ysbryd aflan ganddo.
31. Daeth gan hynny ei frodyr ef a'i fam; a chan sefyll allan, hwy a anfonasant ato, gan ei alw ef.