Marc 2:11-18 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

11. Wrthyt ti yr wyf yn dywedyd, Cyfod, a chymer i fyny dy wely, a dos i'th dŷ.

12. Ac yn y man y cyfododd efe, ac y cymerth i fyny ei wely, ac a aeth allan yn eu gŵydd hwynt oll; hyd oni synnodd pawb, a gogoneddu Duw, gan ddywedyd, Ni welsom ni erioed fel hyn.

13. Ac efe a aeth allan drachefn wrth lan y môr: a'r holl dyrfa a ddaeth ato; ac efe a'u dysgodd hwynt.

14. Ac efe yn myned heibio, efe a ganfu Lefi fab Alffeus yn eistedd wrth y dollfa, ac a ddywedodd wrtho, Canlyn fi. Ac efe a gododd, ac a'i canlynodd ef.

15. A bu, a'r Iesu yn eistedd i fwyta yn ei dŷ ef, i lawer hefyd o bublicanod a phechaduriaid eistedd gyda'r Iesu a'i ddisgyblion; canys llawer oeddynt, a hwy a'i canlynasent ef.

16. A phan welodd yr ysgrifenyddion a'r Phariseaid ef yn bwyta gyda'r publicanod a'r pechaduriaid, hwy a ddywedasant wrth ei ddisgyblion ef, Paham y mae efe yn bwyta ac yn yfed gyda'r publicanod a'r pechaduriaid?

17. A'r Iesu, pan glybu, a ddywedodd wrthynt, Y rhai sydd iach nid rhaid iddynt wrth y meddyg, ond y rhai cleifion: ni ddeuthum i alw y rhai cyfiawn, ond pechaduriaid, i edifeirwch.

18. A disgyblion Ioan a'r Phariseaid oeddynt yn ymprydio. A hwy a ddaethant ac a ddywedasant wrtho, Paham y mae disgyblion Ioan a'r Phariseaid yn ymprydio, ond dy ddisgyblion di nid ydynt yn ymprydio?

Marc 2