6. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Na ddychrynwch. Ceisio yr ydych yr Iesu o Nasareth, yr hwn a groeshoeliwyd: efe a gyfododd; nid yw efe yma: wele y man y dodasant ef.
7. Eithr ewch ymaith, dywedwch i'w ddisgyblion ef, ac i Pedr, ei fod ef yn myned o'ch blaen chwi i Galilea: yno y cewch ei weled ef, fel y dywedodd i chwi.
8. Ac wedi myned allan ar frys, hwy a ffoesant oddi wrth y bedd; canys dychryn a syndod oedd arnynt. Ac ni ddywedasant ddim wrth neb: canys yr oeddynt wedi ofni.
9. A'r Iesu, wedi atgyfodi y bore y dydd cyntaf o'r wythnos, a ymddangosodd yn gyntaf i Mair Magdalen, o'r hon y bwriasai efe allan saith o gythreuliaid.
10. Hithau a aeth, ac a fynegodd i'r rhai a fuasent gydag ef, ac oeddynt mewn galar ac wylofain.
11. A hwythau, pan glywsant ei fod ef yn fyw, ac iddi hi ei weled ef, ni chredent.
12. Ac wedi hynny yr ymddangosodd efe mewn gwedd arall i ddau ohonynt, a hwynt yn ymdeithio, ac yn myned i'r wlad.
13. A hwy a aethant, ac a fynegasant i'r lleill: ac ni chredent iddynt hwythau.
14. Ac ar ôl hynny efe a ymddangosodd i'r un ar ddeg, a hwy yn eistedd i fwyta; ac a ddanododd iddynt eu hanghrediniaeth a'u calon‐galedwch, am na chredasent y rhai a'i gwelsent ef wedi atgyfodi.
15. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ewch i'r holl fyd, a phregethwch yr efengyl i bob creadur.