Marc 16:16-20 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

16. Y neb a gredo ac a fedyddier a fydd cadwedig: eithr y neb ni chredo a gondemnir.

17. A'r arwyddion hyn a ganlynant y rhai a gredant: Yn fy enw i y bwriant allan gythreuliaid; ac รข thafodau newyddion y llefarant;

18. Seirff a godant ymaith; ac os yfant ddim marwol, ni wna iddynt ddim niwed; ar y cleifion y rhoddant eu dwylo, a hwy a fyddant iach.

19. Ac felly yr Arglwydd, wedi llefaru wrthynt, a gymerwyd i fyny i'r nef, ac a eisteddodd ar ddeheulaw Duw.

20. A hwythau a aethant allan, ac a bregethasant ym mhob man, a'r Arglwydd yn cydweithio, ac yn cadarnhau'r gair, trwy arwyddion y rhai oedd yn canlyn. Amen.

Marc 16