Marc 16:13-16 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

13. A hwy a aethant, ac a fynegasant i'r lleill: ac ni chredent iddynt hwythau.

14. Ac ar ôl hynny efe a ymddangosodd i'r un ar ddeg, a hwy yn eistedd i fwyta; ac a ddanododd iddynt eu hanghrediniaeth a'u calon‐galedwch, am na chredasent y rhai a'i gwelsent ef wedi atgyfodi.

15. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ewch i'r holl fyd, a phregethwch yr efengyl i bob creadur.

16. Y neb a gredo ac a fedyddier a fydd cadwedig: eithr y neb ni chredo a gondemnir.

Marc 16