Marc 16:10-20 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

10. Hithau a aeth, ac a fynegodd i'r rhai a fuasent gydag ef, ac oeddynt mewn galar ac wylofain.

11. A hwythau, pan glywsant ei fod ef yn fyw, ac iddi hi ei weled ef, ni chredent.

12. Ac wedi hynny yr ymddangosodd efe mewn gwedd arall i ddau ohonynt, a hwynt yn ymdeithio, ac yn myned i'r wlad.

13. A hwy a aethant, ac a fynegasant i'r lleill: ac ni chredent iddynt hwythau.

14. Ac ar ôl hynny efe a ymddangosodd i'r un ar ddeg, a hwy yn eistedd i fwyta; ac a ddanododd iddynt eu hanghrediniaeth a'u calon‐galedwch, am na chredasent y rhai a'i gwelsent ef wedi atgyfodi.

15. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ewch i'r holl fyd, a phregethwch yr efengyl i bob creadur.

16. Y neb a gredo ac a fedyddier a fydd cadwedig: eithr y neb ni chredo a gondemnir.

17. A'r arwyddion hyn a ganlynant y rhai a gredant: Yn fy enw i y bwriant allan gythreuliaid; ac â thafodau newyddion y llefarant;

18. Seirff a godant ymaith; ac os yfant ddim marwol, ni wna iddynt ddim niwed; ar y cleifion y rhoddant eu dwylo, a hwy a fyddant iach.

19. Ac felly yr Arglwydd, wedi llefaru wrthynt, a gymerwyd i fyny i'r nef, ac a eisteddodd ar ddeheulaw Duw.

20. A hwythau a aethant allan, ac a bregethasant ym mhob man, a'r Arglwydd yn cydweithio, ac yn cadarnhau'r gair, trwy arwyddion y rhai oedd yn canlyn. Amen.

Marc 16