Marc 14:62-72 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

62. A'r Iesu a ddywedodd, Myfi yw: a chwi a gewch weled Mab y dyn yn eistedd ar ddeheulaw'r gallu, ac yn dyfod yng nghymylau'r nef.

63. Yna yr archoffeiriad, gan rwygo ei ddillad, a ddywedodd, Pa raid i ni mwy wrth dystion?

64. Chwi a glywsoch y gabledd: beth dybygwch chwi? A hwynt oll a'i condemniasant ef, ei fod yn euog o farwolaeth.

65. A dechreuodd rhai boeri arno, a chuddio ei wyneb, a'i gernodio; a dywedyd wrtho, Proffwyda. A'r gweinidogion a'i trawsant ef รข gwiail.

66. Ac fel yr oedd Pedr yn y llys i waered, daeth un o forynion yr archoffeiriad:

67. A phan ganfu hi Pedr yn ymdwymo, hi a edrychodd arno, ac a ddywedodd, Tithau hefyd oeddit gyda'r Iesu o Nasareth.

68. Ac efe a wadodd, gan ddywedyd, Nid adwaen i, ac ni wn i beth yr wyt yn ei ddywedyd. Ac efe a aeth allan i'r porth; a'r ceiliog a ganodd.

69. A phan welodd y llances ef drachefn, hi a ddechreuodd ddywedyd wrth y rhai oedd yn sefyll yno, Y mae hwn yn un ohonynt.

70. Ac efe a wadodd drachefn. Ac ychydig wedi, y rhai oedd yn sefyll gerllaw a ddywedasant wrth Pedr drachefn, Yn wir yr wyt ti yn un ohonynt; canys Galilead wyt, a'th leferydd sydd debyg.

71. Ond efe a ddechreuodd regi a thyngu, Nid adwaen i'r dyn yma yr ydych chwi yn dywedyd amdano.

72. A'r ceiliog a ganodd yr ail waith. A Phedr a gofiodd y gair a ddywedasai'r Iesu wrtho, Cyn canu o'r ceiliog ddwywaith, ti a'm gwedi deirgwaith. A chan ystyried hynny, efe a wylodd.

Marc 14