Marc 14:56-68 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

56. Canys llawer a ddygasant gau dystiolaeth yn ei erbyn ef; eithr nid oedd eu tystiolaethau hwy yn gyson.

57. A rhai a gyfodasant ac a ddygasant gamdystiolaeth yn ei erbyn, gan ddywedyd,

58. Ni a'i clywsom ef yn dywedyd, Mi a ddinistriaf y deml hon o waith dwylo, ac mewn tridiau yr adeiladaf arall heb fod o waith llaw.

59. Ac eto nid oedd eu tystiolaeth hwy felly yn gyson.

60. A chyfododd yr archoffeiriad yn y canol, ac a ofynnodd i'r Iesu, gan ddywedyd, Onid atebi di ddim? beth y mae'r rhai hyn yn ei dystiolaethu yn dy erbyn?

61. Ac efe a dawodd, ac nid atebodd ddim. Drachefn yr archoffeiriad a ofynnodd iddo, ac a ddywedodd wrtho, Ai tydi yw Crist, Mab y Bendigedig?

62. A'r Iesu a ddywedodd, Myfi yw: a chwi a gewch weled Mab y dyn yn eistedd ar ddeheulaw'r gallu, ac yn dyfod yng nghymylau'r nef.

63. Yna yr archoffeiriad, gan rwygo ei ddillad, a ddywedodd, Pa raid i ni mwy wrth dystion?

64. Chwi a glywsoch y gabledd: beth dybygwch chwi? A hwynt oll a'i condemniasant ef, ei fod yn euog o farwolaeth.

65. A dechreuodd rhai boeri arno, a chuddio ei wyneb, a'i gernodio; a dywedyd wrtho, Proffwyda. A'r gweinidogion a'i trawsant ef รข gwiail.

66. Ac fel yr oedd Pedr yn y llys i waered, daeth un o forynion yr archoffeiriad:

67. A phan ganfu hi Pedr yn ymdwymo, hi a edrychodd arno, ac a ddywedodd, Tithau hefyd oeddit gyda'r Iesu o Nasareth.

68. Ac efe a wadodd, gan ddywedyd, Nid adwaen i, ac ni wn i beth yr wyt yn ei ddywedyd. Ac efe a aeth allan i'r porth; a'r ceiliog a ganodd.

Marc 14