50. A hwynt oll a'i gadawsant ef, ac a ffoesant.
51. A rhyw ŵr ieuanc oedd yn ei ddilyn ef, wedi ymwisgo â lliain main ar ei gorff noeth; a'r gwŷr ieuainc a'i daliasant ef.
52. A hwn a adawodd y lliain, ac a ffodd oddi wrthynt yn noeth.
53. A hwy a ddygasant yr Iesu at yr archoffeiriad: a'r holl archoffeiriaid a'r henuriaid, a'r ysgrifenyddion, a ymgasglasant gydag ef.
54. A Phedr a'i canlynodd ef o hirbell, hyd yn llys yr archoffeiriad; ac yr oedd efe yn eistedd gyda'r gwasanaethwyr, ac yn ymdwymo wrth y tân.
55. A'r archoffeiriaid a'r holl gyngor a geisiasant dystiolaeth yn erbyn yr Iesu, i'w roi ef i'w farwolaeth; ac ni chawsant.
56. Canys llawer a ddygasant gau dystiolaeth yn ei erbyn ef; eithr nid oedd eu tystiolaethau hwy yn gyson.
57. A rhai a gyfodasant ac a ddygasant gamdystiolaeth yn ei erbyn, gan ddywedyd,
58. Ni a'i clywsom ef yn dywedyd, Mi a ddinistriaf y deml hon o waith dwylo, ac mewn tridiau yr adeiladaf arall heb fod o waith llaw.
59. Ac eto nid oedd eu tystiolaeth hwy felly yn gyson.
60. A chyfododd yr archoffeiriad yn y canol, ac a ofynnodd i'r Iesu, gan ddywedyd, Onid atebi di ddim? beth y mae'r rhai hyn yn ei dystiolaethu yn dy erbyn?
61. Ac efe a dawodd, ac nid atebodd ddim. Drachefn yr archoffeiriad a ofynnodd iddo, ac a ddywedodd wrtho, Ai tydi yw Crist, Mab y Bendigedig?
62. A'r Iesu a ddywedodd, Myfi yw: a chwi a gewch weled Mab y dyn yn eistedd ar ddeheulaw'r gallu, ac yn dyfod yng nghymylau'r nef.