22. Canys gau Gristiau a gau broffwydi a gyfodant, ac a ddangosant arwyddion a rhyfeddodau, i hudo ymaith, pe byddai bosibl, ie, yr etholedigion.
23. Eithr ymogelwch chwi: wele, rhagddywedais i chwi bob peth.
24. Ond yn y dyddiau hynny, wedi'r gorthrymder hwnnw, y tywylla'r haul, a'r lloer ni rydd ei goleuni,
25. A sêr y nef a syrthiant, a'r nerthoedd sydd yn y nefoedd a siglir.
26. Ac yna y gwelant Fab y dyn yn dyfod yn y cymylau, gyda gallu mawr a gogoniant.
27. Ac yna yr enfyn efe ei angylion, ac y cynnull ei etholedigion oddi wrth y pedwar gwynt, o eithaf y ddaear hyd eithaf y nef.
28. Ond dysgwch ddameg oddi wrth y ffigysbren: Pan fo ei gangen eisoes yn dyner, a'r dail yn torri allan, chwi a wyddoch fod yr haf yn agos:
29. Ac felly chwithau, pan weloch y pethau hyn wedi dyfod, gwybyddwch ei fod yn agos, wrth y drysau.
30. Yn wir yr wyf yn dywedyd i chwi, nad â'r oes hon heibio, hyd oni wneler y pethau hyn oll.
31. Nef a daear a ânt heibio: ond y geiriau mau fi nid ânt heibio ddim.
32. Eithr am y dydd hwnnw a'r awr ni ŵyr neb, na'r angylion sydd yn y nef, na'r Mab, ond y Tad.