Marc 12:4-10 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

4. A thrachefn yr anfonodd efe atynt was arall; a hwnnw y taflasant gerrig ato, ac yr archollasant ei ben, ac a'i gyrasant ymaith yn amharchus.

5. A thrachefn yr anfonodd efe un arall; a hwnnw a laddasant: a llawer eraill; gan faeddu rhai, a lladd y lleill.

6. Am hynny eto, a chanddo un mab, ei anwylyd, efe a anfonodd hwnnw hefyd atynt yn ddiwethaf gan ddywedyd, Hwy a barchant fy mab i.

7. Ond y llafurwyr hynny a ddywedasant yn eu plith eu hunain, Hwn yw'r etifedd; deuwch, lladdwn ef, a'r etifeddiaeth fydd eiddom ni.

8. A hwy a'i daliasant ef, ac a'i lladdasant, ac a'i bwriasant allan o'r winllan.

9. Beth gan hynny a wna arglwydd y winllan? efe a ddaw, ac a ddifetha'r llafurwyr, ac a rydd y winllan i eraill.

10. Oni ddarllenasoch yr ysgrythur hon? Y maen a wrthododd yr adeiladwyr, hwn a wnaethpwyd yn ben y gongl:

Marc 12