Marc 12:28-44 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

28. Ac un o'r ysgrifenyddion a ddaeth, wedi eu clywed hwynt yn ymresymu, a gwybod ateb ohono iddynt yn gymwys, ac a ofynnodd iddo, Pa un yw'r gorchymyn cyntaf o'r cwbl?

29. A'r Iesu a atebodd iddo, Y cyntaf o'r holl orchmynion yw, Clyw, Israel; Yr Arglwydd ein Duw, un Arglwydd yw:

30. A châr yr Arglwydd dy Dduw â'th holl galon, ac â'th holl enaid, ac â'th holl feddwl, ac â'th holl nerth. Hwn yw'r gorchymyn cyntaf.

31. A'r ail sydd gyffelyb iddo; Câr dy gymydog fel ti dy hun. Nid oes orchymyn arall mwy na'r rhai hyn.

32. A dywedodd yr ysgrifennydd wrtho, Da, Athro, mewn gwirionedd y dywedaist, mai un Duw sydd, ac nad oes arall ond efe:

33. A'i garu ef â'r holl galon, ac â'r holl ddeall, ac â'r holl enaid, ac â'r holl nerth, a charu ei gymydog megis ei hun, sydd fwy na'r holl boethoffrymau a'r aberthau.

34. A'r Iesu, pan welodd iddo ateb yn synhwyrol, a ddywedodd wrtho, Nid wyt ti bell oddi wrth deyrnas Dduw. Ac ni feiddiodd neb mwy ymofyn ag ef.

35. A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd, wrth ddysgu yn y deml, Pa fodd y dywed yr ysgrifenyddion fod Crist yn fab Dafydd?

36. Canys Dafydd ei hun a ddywedodd trwy'r Ysbryd Glân, Yr Arglwydd a ddywedodd wrth fy Arglwydd, Eistedd ar fy neheulaw, hyd oni osodwyf dy elynion yn droedfainc i'th draed.

37. Y mae Dafydd ei hun, gan hynny, yn ei alw ef yn Arglwydd; ac o ba le y mae efe yn fab iddo? A llawer o bobl a'i gwrandawent ef yn ewyllysgar.

38. Ac efe a ddywedodd wrthynt yn ei athrawiaeth, Ymogelwch rhag yr ysgrifenyddion, y rhai a chwenychant rodio mewn gwisgoedd llaesion, a chael cyfarch yn y marchnadoedd,

39. A'r prif gadeiriau yn y synagogau, a'r prif eisteddleoedd mewn swperau;

40. Y rhai sydd yn llwyr fwyta tai gwragedd gweddwon, ac mewn rhith yn hir weddïo: y rhai hyn a dderbyniant farnedigaeth fwy.

41. A'r Iesu a eisteddodd gyferbyn â'r drysorfa, ac a edrychodd pa fodd yr oedd y bobl yn bwrw arian i'r drysorfa: a chyfoethogion lawer a fwriasant lawer.

42. A rhyw wraig weddw dlawd a ddaeth, ac a fwriodd i mewn ddwy hatling, yr hyn yw ffyrling.

43. Ac efe a alwodd ei ddisgyblion ato, ac a ddywedodd wrthynt, Yn wir yr wyf yn dywedyd i chwi, fwrw o'r wraig weddw dlawd hon i mewn fwy na'r rhai oll a fwriasant i'r drysorfa.

44. Canys hwynt‐hwy oll a fwriasant o'r hyn a oedd yng ngweddill ganddynt: ond hon o'i heisiau a fwriodd i mewn yr hyn oll a feddai, sef ei holl fywyd.

Marc 12