14. Hwythau, pan ddaethant, a ddywedasant wrtho, Athro, ni a wyddom dy fod di yn eirwir, ac nad oes arnat ofal rhag neb: canys nid wyt ti yn edrych ar wyneb dynion, ond yr wyt yn dysgu ffordd Duw mewn gwirionedd: Ai cyfreithlon rhoi teyrnged i Gesar, ai nid yw? a roddwn, ai ni roddwn hi?
15. Ond efe, gan wybod eu rhagrith hwynt, a ddywedodd wrthynt, Paham y temtiwch fi? dygwch i mi geiniog, fel y gwelwyf hi.
16. A hwy a'i dygasant. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Eiddo pwy yw'r ddelw hon a'r argraff? A hwy a ddywedasant wrtho, Eiddo Cesar.
17. A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Rhoddwch yr eiddo Cesar i Gesar, a'r eiddo Duw i Dduw. A rhyfeddu a wnaethant o'i blegid.
18. Daeth y Sadwceaid hefyd ato, y rhai a ddywedant nad oes atgyfodiad; a gofynasant iddo, gan ddywedyd,
19. Athro, Moses a ysgrifennodd i ni, O bydd marw brawd neb, a gadu ei wraig, ac heb adu plant, am gymryd o'i frawd ei wraig ef, a chodi had i'w frawd.
20. Yr oedd gan hynny saith o frodyr: a'r cyntaf a gymerth wraig; a phan fu farw, ni adawodd had.