Marc 11:29-33 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

29. A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, A minnau a ofynnaf i chwithau un gair; ac atebwch fi, a mi a ddywedaf i chwi trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn.

30. Bedydd Ioan, ai o'r nef yr oedd, ai o ddynion? atebwch fi.

31. Ac ymresymu a wnaethant wrthynt eu hunain, gan ddywedyd, Os dywedwn, O'r nef; efe a ddywed, Paham gan hynny na chredech iddo?

32. Eithr os dywedwn, O ddynion; yr oedd arnynt ofn y bobl: canys pawb oll a gyfrifent Ioan mai proffwyd yn ddiau ydoedd.

33. A hwy a atebasant ac a ddywedasant wrth yr Iesu, Ni wyddom ni. A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt hwythau, Ac ni ddywedaf finnau i chwithau trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn.

Marc 11