17. Ac efe a'u dysgodd, gan ddywedyd wrthynt, Onid yw'n ysgrifenedig, Y gelwir fy nhŷ i yn dŷ gweddi i'r holl genhedloedd? ond chwi a'i gwnaethoch yn ogof lladron.
18. A'r ysgrifenyddion a'r archoffeiriaid a glywsant hyn, ac a geisiasant pa fodd y difethent ef: canys yr oeddynt yn ei ofni ef, am fod yr holl bobl yn synnu oblegid ei athrawiaeth ef.
19. A phan aeth hi yn hwyr, efe a aeth allan o'r ddinas.
20. A'r bore, wrth fyned heibio, hwy a welsant y ffigysbren wedi crino o'r gwraidd.
21. A Phedr wedi atgofio, a ddywedodd wrtho, Athro, wele y ffigysbren a felltithiaist, wedi crino.
22. A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Bydded gennych ffydd yn Nuw:
23. Canys yn wir yr wyf yn dywedyd i chwi, Pwy bynnag a ddywedo wrth y mynydd hwn, Tynner di ymaith, a bwrier di i'r môr; ac nid amheuo yn ei galon, ond credu y daw i ben y pethau a ddywedo efe; beth bynnag a ddywedo, a fydd iddo.
24. Am hynny meddaf i chwi, Beth bynnag oll a geisioch wrth weddïo credwch y derbyniwch, ac fe fydd i chwi.
25. A phan safoch i weddïo, maddeuwch, o bydd gennych ddim yn erbyn neb; fel y maddeuo eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd i chwithau eich camweddau:
26. Ond os chwi ni faddeuwch, eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd ni faddau chwaith eich camweddau chwithau.