1. Ac wedi eu dyfod yn agos i Jerwsalem, i Bethffage a Bethania, hyd fynydd yr Olewydd, efe a anfonodd ddau o'i ddisgyblion,
2. Ac a ddywedodd wrthynt, Ewch ymaith i'r pentref sydd gyferbyn รข chwi: ac yn y man wedi y deloch i mewn iddo, chwi a gewch ebol wedi ei rwymo, ar yr hwn nid eisteddodd neb; gollyngwch ef yn rhydd, a dygwch ymaith.
3. Ac os dywed neb wrthych, Paham y gwnewch hyn? dywedwch, Am fod yn rhaid i'r Arglwydd wrtho; ac yn ebrwydd efe a'i denfyn yma.