1. Ac wedi eu dyfod yn agos i Jerwsalem, i Bethffage a Bethania, hyd fynydd yr Olewydd, efe a anfonodd ddau o'i ddisgyblion,
2. Ac a ddywedodd wrthynt, Ewch ymaith i'r pentref sydd gyferbyn â chwi: ac yn y man wedi y deloch i mewn iddo, chwi a gewch ebol wedi ei rwymo, ar yr hwn nid eisteddodd neb; gollyngwch ef yn rhydd, a dygwch ymaith.
3. Ac os dywed neb wrthych, Paham y gwnewch hyn? dywedwch, Am fod yn rhaid i'r Arglwydd wrtho; ac yn ebrwydd efe a'i denfyn yma.
4. A hwy a aethant ymaith, ac a gawsant yr ebol yn rhwym wrth y drws oddi allan, mewn croesffordd; ac a'i gollyngasant ef yn rhydd.
5. A rhai o'r rhai oedd yn sefyll yno a ddywedasant wrthynt, Beth a wnewch chwi, yn gollwng yr ebol yn rhydd?
6. A hwy a ddywedasant wrthynt fel y gorchmynasai yr Iesu: a hwy a adawsant iddynt fyned ymaith.
7. A hwy a ddygasant yr ebol at yr Iesu, ac a fwriasant eu dillad arno; ac efe a eisteddodd arno.
8. A llawer a daenasant eu dillad ar hyd y ffordd; ac eraill a dorasant gangau o'r gwŷdd, ac a'u taenasant ar y ffordd.
9. A'r rhai oedd yn myned o'r blaen, a'r rhai oedd yn dyfod ar ôl, a lefasant, gan ddywedyd, Hosanna; Bendigedig fyddo'r hwn sydd yn dyfod yn enw'r Arglwydd:
10. Bendigedig yw'r deyrnas sydd yn dyfod yn enw Arglwydd ein tad Dafydd: Hosanna yn y goruchaf.
11. A'r Iesu a aeth i mewn i Jerwsalem, ac i'r deml: ac wedi iddo edrych ar bob peth o'i amgylch, a hi weithian yn hwyr, efe a aeth allan i Fethania gyda'r deuddeg.
12. A thrannoeth, wedi iddynt ddyfod allan o Fethania, yr oedd arno chwant bwyd.
13. Ac wedi iddo ganfod o hirbell ffigysbren ag arno ddail, efe a aeth i edrych a gaffai ddim arno. A phan ddaeth ato, ni chafodd efe ddim ond y dail: canys nid oedd amser ffigys.
14. A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Na fwytaed neb ffrwyth ohonot byth mwy. A'i ddisgyblion ef a glywsant.
15. A hwy a ddaethant i Jerwsalem. A'r Iesu a aeth i'r deml, ac a ddechreuodd fwrw allan y rhai a werthent ac a brynent yn y deml; ac a ymchwelodd drestlau'r arianwyr, a chadeiriau'r gwerthwyr colomennod:
16. Ac ni adawai efe i neb ddwyn llestr trwy'r deml.
17. Ac efe a'u dysgodd, gan ddywedyd wrthynt, Onid yw'n ysgrifenedig, Y gelwir fy nhŷ i yn dŷ gweddi i'r holl genhedloedd? ond chwi a'i gwnaethoch yn ogof lladron.