42. A'r Iesu a'u galwodd hwynt ato, ac a ddywedodd wrthynt, Chwi a wyddoch fod y rhai a dybir eu bod yn llywodraethu ar y Cenhedloedd, yn tra‐arglwyddiaethu arnynt; a'u gwŷr mawr hwynt yn tra‐awdurdodi arnynt.
43. Eithr nid felly y bydd yn eich plith chwi: ond pwy bynnag a ewyllysio fod yn fawr yn eich plith, bydded weinidog i chwi;
44. A phwy bynnag ohonoch a fynno fod yn bennaf, bydded was i bawb.
45. Canys ni ddaeth Mab y dyn i'w wasanaethu, ond i wasanaethu, ac i roi ei einioes yn bridwerth dros lawer.
46. A hwy a ddaethant i Jericho. Ac fel yr oedd efe yn myned allan o Jericho, efe a'i ddisgyblion, a bagad o bobl, Bartimeus ddall, mab Timeus, oedd yn eistedd ar fin y ffordd, yn cardota.
47. A phan glybu mai'r Iesu o Nasareth ydoedd, efe a ddechreuodd lefain, a dywedyd, Iesu, mab Dafydd, trugarha wrthyf.
48. A llawer a'i ceryddasant ef, i geisio ganddo dewi: ond efe a lefodd yn fwy o lawer, Mab Dafydd, trugarha wrthyf.
49. A'r Iesu a safodd, ac a archodd ei alw ef. A hwy a alwasant y dall, gan ddywedyd wrtho, Cymer galon; cyfod: y mae efe yn dy alw di.
50. Ond efe, wedi taflu ei gochl ymaith, a gyfododd, ac a ddaeth at yr Iesu.
51. A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Beth a fynni i mi ei wneuthur i ti? A'r dall a ddywedodd wrtho, Athro, caffael ohonof fy ngolwg.
52. A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Dos ymaith: dy ffydd a'th iachaodd. Ac yn y man y cafodd efe ei olwg, ac efe a ddilynodd yr Iesu ar hyd y ffordd.