3. Yntau a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Beth a orchmynnodd Moses i chwi?
4. A hwy a ddywedasant, Moses a ganiataodd ysgrifennu llythyr ysgar, a'i gollwng hi ymaith.
5. A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, O achos eich calon‐galedwch chwi yr ysgrifennodd efe i chwi y gorchymyn hwnnw:
6. Ond o ddechreuad y creadigaeth, yn wryw a benyw y gwnaeth Duw hwynt.
7. Am hyn y gad dyn ei dad a'i fam, ac y glŷn wrth ei wraig;
8. A hwy ill dau a fyddant un cnawd: fel nad ydynt mwy ddau, ond un cnawd.
9. Y peth gan hynny a gysylltodd Duw, na wahaned dyn.
10. Ac yn y tŷ drachefn ei ddisgyblion a ofynasant iddo am yr un peth.
11. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pwy bynnag a roddo ymaith ei wraig, ac a briodo un arall, y mae yn godinebu yn ei herbyn hi.
12. Ac os gwraig a ddyry ymaith ei gŵr, a phriodi un arall, y mae hi'n godinebu.
13. A hwy a ddygasant blant bychain ato, fel y cyffyrddai efe â hwynt: a'r disgyblion a geryddasant y rhai oedd yn eu dwyn hwynt.
14. A'r Iesu pan welodd hynny, fu anfodlon, ac a ddywedodd wrthynt, Gadewch i blant bychain ddyfod ataf fi, ac na waherddwch iddynt: canys eiddo'r cyfryw rai yw teyrnas Dduw.
15. Yn wir meddaf i chwi, Pwy bynnag ni dderbynio deyrnas Dduw fel dyn bach, nid â efe i mewn iddi.
16. Ac efe a'u cymerodd hwy yn ei freichiau, ac a roddes ei ddwylo arnynt, ac a'u bendithiodd.