Marc 10:1-16 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Ac efe a gyfododd oddi yno, ac a aeth i dueddau Jwdea, trwy'r tu hwnt i'r Iorddonen; a'r bobloedd a gydgyrchasant ato ef drachefn: ac fel yr oedd yn arferu, efe a'u dysgodd hwynt drachefn.

2. A'r Phariseaid, wedi dyfod ato, a ofynasant iddo, Ai rhydd i ŵr roi ymaith ei wraig? gan ei demtio ef.

3. Yntau a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Beth a orchmynnodd Moses i chwi?

4. A hwy a ddywedasant, Moses a ganiataodd ysgrifennu llythyr ysgar, a'i gollwng hi ymaith.

5. A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, O achos eich calon‐galedwch chwi yr ysgrifennodd efe i chwi y gorchymyn hwnnw:

6. Ond o ddechreuad y creadigaeth, yn wryw a benyw y gwnaeth Duw hwynt.

7. Am hyn y gad dyn ei dad a'i fam, ac y glŷn wrth ei wraig;

8. A hwy ill dau a fyddant un cnawd: fel nad ydynt mwy ddau, ond un cnawd.

9. Y peth gan hynny a gysylltodd Duw, na wahaned dyn.

10. Ac yn y tŷ drachefn ei ddisgyblion a ofynasant iddo am yr un peth.

11. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pwy bynnag a roddo ymaith ei wraig, ac a briodo un arall, y mae yn godinebu yn ei herbyn hi.

12. Ac os gwraig a ddyry ymaith ei gŵr, a phriodi un arall, y mae hi'n godinebu.

13. A hwy a ddygasant blant bychain ato, fel y cyffyrddai efe â hwynt: a'r disgyblion a geryddasant y rhai oedd yn eu dwyn hwynt.

14. A'r Iesu pan welodd hynny, fu anfodlon, ac a ddywedodd wrthynt, Gadewch i blant bychain ddyfod ataf fi, ac na waherddwch iddynt: canys eiddo'r cyfryw rai yw teyrnas Dduw.

15. Yn wir meddaf i chwi, Pwy bynnag ni dderbynio deyrnas Dduw fel dyn bach, nid â efe i mewn iddi.

16. Ac efe a'u cymerodd hwy yn ei freichiau, ac a roddes ei ddwylo arnynt, ac a'u bendithiodd.

Marc 10