Marc 1:8-22 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

8. Myfi yn wir a'ch bedyddiais chwi â dwfr: eithr efe a'ch bedyddia chwi â'r Ysbryd Glân.

9. A bu yn y dyddiau hynny, ddyfod o'r Iesu o Nasareth yng Ngalilea; ac efe a fedyddiwyd gan Ioan yn yr Iorddonen.

10. Ac yn ebrwydd wrth ddyfod i fyny o'r dwfr, efe a welodd y nefoedd yn agored, a'r Ysbryd yn disgyn arno megis colomen.

11. A llef a ddaeth o'r nefoedd, Tydi yw fy annwyl Fab, yn yr hwn y'm bodlonwyd.

12. Ac yn ebrwydd y gyrrodd yr Ysbryd ef i'r diffeithwch.

13. Ac efe a fu yno yn y diffeithwch ddeugain niwrnod yn ei demtio gan Satan: ac yr oedd efe gyda'r gwylltfilod: a'r angylion a weiniasant iddo.

14. Ac ar ôl traddodi Ioan, yr Iesu a ddaeth i Galilea, gan bregethu efengyl teyrnas Dduw;

15. A dywedyd, Yr amser a gyflawnwyd, a theyrnas Dduw a nesaodd: edifarhewch, a chredwch yr efengyl.

16. Ac fel yr oedd efe yn rhodio wrth fôr Galilea, efe a ganfu Simon, ac Andreas ei frawd, yn bwrw rhwyd yn y môr: (canys pysgodwyr oeddynt.)

17. A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, Deuwch ar fy ôl i, a gwnaf i chwi fod yn bysgodwyr dynion.

18. Ac yn ebrwydd, gan adael eu rhwydau, y canlynasant ef.

19. Ac wedi iddo fyned rhagddo ychydig oddi yno, efe a ganfu Iago fab Sebedeus, ac Ioan ei frawd ef, a hwy yn y llong yn cyweirio'r rhwydau.

20. Ac yn y man efe a'u galwodd hwynt: a hwy a adawsant eu tad Sebedeus yn y llong gyda'r cyflogddynion, ac a aethant ar ei ôl ef.

21. A hwy a aethant i mewn i Gapernaum; ac yn ebrwydd ar y dydd Saboth, wedi iddo fyned i mewn i'r synagog, efe a athrawiaethodd.

22. A synasant wrth ei athrawiaeth ef: canys yr oedd efe yn eu dysgu hwy megis un ag awdurdod ganddo, ac nid fel yr ysgrifenyddion.

Marc 1