Marc 1:30-33 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

30. Ac yr oedd chwegr Simon yn gorwedd yn glaf o'r cryd: ac yn ebrwydd y dywedasant wrtho amdani hi.

31. Ac efe a ddaeth, ac a'i cododd hi i fyny, gan ymaflyd yn ei llaw hi: a'r cryd a'i gadawodd hi yn y man; a hi a wasanaethodd arnynt hwy.

32. Ac wedi iddi hwyrhau, pan fachludodd yr haul, hwy a ddygasant ato yr holl rai drwg eu hwyl, a'r rhai cythreulig.

33. A'r holl ddinas oedd wedi ymgasglu wrth y drws.

Marc 1