Malachi 3:3-14 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

3. Ac efe a eistedd fel purwr a glanhawr arian: ac efe a bura feibion Lefi, ac a'u coetha hwynt fel aur ac fel arian, fel y byddont yn offrymu i'r Arglwydd offrwm mewn cyfiawnder.

4. Yna y bydd melys gan yr Arglwydd offrwm Jwda a Jerwsalem, megis yn y dyddiau gynt, ac fel y blynyddoedd gynt.

5. A mi a nesâf atoch chwi i farn; a byddaf dyst cyflym yn erbyn yr hudolion, ac yn erbyn y godinebwyr, ac yn erbyn yr anudonwyr, ac yn erbyn camatalwyr cyflog y cyflogedig, a'r rhai sydd yn gorthrymu y weddw, a'r amddifad, a'r dieithr, ac heb fy ofni i, medd Arglwydd y lluoedd.

6. Canys myfi yr Arglwydd ni'm newidir; am hynny ni ddifethwyd chwi, meibion Jacob.

7. Er dyddiau eich tadau y ciliasoch oddi wrth fy neddfau, ac ni chadwasoch hwynt: dychwelwch ataf fi, a mi a ddychwelaf atoch chwithau, medd Arglwydd y lluoedd: ond chwi a ddywedwch, Ym mha beth y dychwelwn?

8. A ysbeilia dyn Dduw? eto chwi a'm hysbeiliasoch i: ond chwi a ddywedwch, Ym mha beth y'th ysbeiliasom? Yn y degwm a'r offrwm.

9. Melltigedig ydych trwy felltith: canys chwi a'm hysbeiliasoch i, sef yr holl genedl hon.

10. Dygwch yr holl ddegwm i'r trysordy, fel y byddo bwyd yn fy nhŷ; a phrofwch fi yr awr hon yn hyn, medd Arglwydd y lluoedd, onid agoraf i chwi ffenestri y nefoedd, a thywallt i chwi fendith, fel na byddo digon o le i'w derbyn.

11. Myfi hefyd a argyhoeddaf er eich mwyn chwi yr ormes, ac ni ddifwyna i chwi ffrwyth y ddaear: a'r winwydden yn y maes ni fwrw ei ffrwyth cyn yr amser i chwi, medd Arglwydd y lluoedd.

12. A'r holl genhedloedd a'ch galwant chwi yn wynfydedig: canys byddwch yn wlad hyfryd, medd Arglwydd y lluoedd.

13. Eich geiriau chwi a ymgryfhaodd i'm herbyn, medd yr Arglwydd: eto chwi a ddywedwch, Pa beth a ddywedasom ni yn dy erbyn di?

14. Dywedasoch, Oferedd yw gwasanaethu Duw: a pha lesiant sydd er i ni gadw ei orchmynion ef, ac er i ni rodio yn alarus gerbron Arglwydd y lluoedd?

Malachi 3