Malachi 3:12-18 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

12. A'r holl genhedloedd a'ch galwant chwi yn wynfydedig: canys byddwch yn wlad hyfryd, medd Arglwydd y lluoedd.

13. Eich geiriau chwi a ymgryfhaodd i'm herbyn, medd yr Arglwydd: eto chwi a ddywedwch, Pa beth a ddywedasom ni yn dy erbyn di?

14. Dywedasoch, Oferedd yw gwasanaethu Duw: a pha lesiant sydd er i ni gadw ei orchmynion ef, ac er i ni rodio yn alarus gerbron Arglwydd y lluoedd?

15. Ac yr awr hon yr ydym yn galw y beilchion yn wynfydedig: ie, gweithredwyr drygioni a adeiladwyd; ie, y rhai a demtiant Dduw, a waredwyd.

16. Yna y rhai oedd yn ofni yr Arglwydd a lefarasant bob un wrth ei gymydog: a'r Arglwydd a wrandawodd, ac a glybu; ac ysgrifennwyd llyfr coffadwriaeth ger ei fron ef i'r rhai oedd yn ofni yr Arglwydd, ac i'r rhai oedd yn meddwl am ei enw ef.

17. A byddant eiddof fi, medd Arglwydd y lluoedd, y dydd y gwnelwyf briodoledd; arbedaf hwynt hefyd fel yr arbed gŵr ei fab sydd yn ei wasanaethu.

18. Yna y dychwelwch, ac y gwelwch ragor rhwng y cyfiawn a'r drygionus, rhwng yr hwn a wasanaetho Dduw a'r hwn nis gwasanaetho ef.

Malachi 3