1. Ac yr awr hon, chwi offeiriaid, i chwi y mae y gorchymyn hwn.
2. Oni wrandewch, ac oni ystyriwch, i roddi anrhydedd i'm henw i, medd Arglwydd y lluoedd; yna mi a anfonaf felltith arnoch chwi, ac a felltithiaf eich bendithion chwi: ie, myfi a'u melltithiais eisoes, am nad ydych yn ystyried.
3. Wele fi yn llygru eich had chwi, a thaenaf dom ar eich wynebau, sef tom eich uchel wyliau; ac un a'ch cymer chwi ato ef.
4. Hefyd cewch wybod mai myfi a anfonais atoch y gorchymyn hwn, fel y byddai fy nghyfamod รข Lefi, medd Arglwydd y lluoedd.