4. Lle y dywed Edom, Tlodwyd ni, eto dychwelwn, ac adeiladwn yr anghyfaneddleoedd; fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Hwy a adeiladant, ond minnau a fwriaf i lawr; a galwant hwynt yn Ardal drygioni, a'r Bobl wrth y rhai y llidiodd yr Arglwydd yn dragywydd.
5. Eich llygaid hefyd a welant, a chwithau a ddywedwch, Mawrygir yr Arglwydd oddi ar derfyn Israel.
6. Mab a anrhydedda ei dad, a gweinidog ei feistr: ac os ydwyf fi dad, pa le y mae fy anrhydedd? ac os ydwyf fi feistr, pa le y mae fy ofn? medd Arglwydd y lluoedd wrthych chwi yr offeiriaid, y rhai ydych yn dirmygu fy enw: a chwi a ddywedwch, Ym mha beth y dirmygasom dy enw di?
7. Offrymu yr ydych ar fy allor fara halogedig; a chwi a ddywedwch, Ym mha beth yr halogasom di? Am i chwi ddywedyd, Dirmygus yw bwrdd yr Arglwydd.
8. Ac os offrymu yr ydych y dall yn aberth, onid drwg hynny? ac os offrymwch y cloff a'r clwyfus, onid drwg hynny? cynnig ef yr awron i'th dywysog, a fydd efe bodlon i ti? neu a dderbyn efe dy wyneb? medd Arglwydd y lluoedd.
9. Ac yn awr gweddïwch, atolwg, gerbron Duw, fel y trugarhao wrthym: o'ch llaw chwi y bu hyn: a dderbyn efe wyneb un ohonoch? medd Arglwydd y lluoedd.
10. A phwy hefyd ohonoch a gaeai y dorau, neu a oleuai fy allor yn rhad? Nid oes gennyf fodlonrwydd ynoch chwi, medd Arglwydd y lluoedd, ac ni dderbyniaf offrwm o'ch llaw.
11. Canys o gyfodiad haul hyd ei fachludiad hefyd, mawr fydd fy enw ymysg y Cenhedloedd: ac ym mhob lle arogl-darth a offrymir i'm henw, ac offrwm pur: canys mawr fydd fy enw ymhlith y Cenhedloedd, medd Arglwydd y lluoedd.