Malachi 1:10-14 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

10. A phwy hefyd ohonoch a gaeai y dorau, neu a oleuai fy allor yn rhad? Nid oes gennyf fodlonrwydd ynoch chwi, medd Arglwydd y lluoedd, ac ni dderbyniaf offrwm o'ch llaw.

11. Canys o gyfodiad haul hyd ei fachludiad hefyd, mawr fydd fy enw ymysg y Cenhedloedd: ac ym mhob lle arogl-darth a offrymir i'm henw, ac offrwm pur: canys mawr fydd fy enw ymhlith y Cenhedloedd, medd Arglwydd y lluoedd.

12. Ond chwi a'i halogasoch ef, pan ddywedasoch, Bwrdd yr Arglwydd sydd halogedig; a'i ffrwyth, sef ei fwyd, sydd ddirmygus.

13. Chwi hefyd a ddywedasoch, Wele, pa flinder yw! a ffroenasoch arno, medd Arglwydd y lluoedd; a dygasoch yr hyn a ysglyfaethwyd, a'r cloff, a'r clwyfus; fel hyn y dygasoch offrwm: a fyddaf fi fodlon i hynny o'ch llaw chwi? medd yr Arglwydd.

14. Ond melltigedig yw y twyllodrus, yr hwn y mae yn ei ddiadell wryw, ac a adduna ac a abertha un llygredig i'r Arglwydd; canys Brenin mawr ydwyf fi, medd Arglwydd y lluoedd, a'm henw sydd ofnadwy ymhlith y cenhedloedd.

Malachi 1