Luc 9:33-42 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

33. A bu, a hwy yn ymado oddi wrtho ef, ddywedyd o Pedr wrth yr Iesu, O Feistr, da yw i ni fod yma: a gwnawn dair pabell; un i ti, ac un i Moses, ac un i Eleias: heb wybod beth yr oedd yn ei ddywedyd.

34. Ac fel yr oedd efe yn dywedyd hyn, daeth cwmwl, ac a'u cysgododd hwynt: a hwynt‐hwy a ofnasant wrth fyned ohonynt i'r cwmwl.

35. A daeth llef allan o'r cwmwl, gan ddywedyd, Hwn yw fy Mab annwyl; gwrandewch ef.

36. Ac wedi bod y llef, cafwyd yr Iesu yn unig. A hwy a gelasant, ac ni fynegasant i neb y dyddiau hynny ddim o'r pethau a welsent.

37. A darfu drannoeth, pan ddaethant i waered o'r mynydd, i dyrfa fawr gyfarfod ag ef.

38. Ac wele, gŵr o'r dyrfa a ddolefodd, gan ddywedyd, O Athro, yr wyf yn atolwg i ti, edrych ar fy mab; canys fy unig‐anedig yw.

39. Ac wele, y mae ysbryd yn ei gymryd ef, ac yntau yn ddisymwth yn gweiddi; ac y mae'n ei ddryllio ef, hyd oni falo ewyn; a braidd yr ymedy oddi wrtho, wedi iddo ei ysigo ef.

40. Ac mi a ddeisyfais ar dy ddisgyblion di ei fwrw ef allan; ac nis gallasant.

41. A'r Iesu gan ateb a ddywedodd, O genhedlaeth anffyddlon a throfaus, pa hyd y byddaf gyda chwi, ac y'ch goddefaf? dwg dy fab yma.

42. Ac fel yr oedd efe eto yn dyfod, y cythraul a'i rhwygodd ef, ac a'i drylliodd: a'r Iesu a geryddodd yr ysbryd aflan, ac a iachaodd y bachgen, ac a'i rhoddes ef i'w dad.

Luc 9