28. A bu, ynghylch wyth niwrnod wedi'r geiriau hyn, gymryd ohono ef Pedr, ac Ioan, ac Iago, a myned i fyny i'r mynydd i weddïo.
29. Ac fel yr oedd efe yn gweddïo, gwedd ei wynepryd ef a newidiwyd, a'i wisg oedd yn wen ddisglair.
30. Ac wele, dau ŵr a gydymddiddanodd ag ef, y rhai oedd Moses ac Eleias:
31. Y rhai a ymddangosasant mewn gogoniant, ac a ddywedasant am ei ymadawiad ef, yr hwn a gyflawnai efe yn Jerwsalem.
32. A Phedr, a'r rhai oedd gydag ef, oeddynt wedi trymhau gan gysgu: a phan ddihunasant, hwy a welsant ei ogoniant ef, a'r ddau ŵr y rhai oedd yn sefyll gydag ef.
33. A bu, a hwy yn ymado oddi wrtho ef, ddywedyd o Pedr wrth yr Iesu, O Feistr, da yw i ni fod yma: a gwnawn dair pabell; un i ti, ac un i Moses, ac un i Eleias: heb wybod beth yr oedd yn ei ddywedyd.
34. Ac fel yr oedd efe yn dywedyd hyn, daeth cwmwl, ac a'u cysgododd hwynt: a hwynt‐hwy a ofnasant wrth fyned ohonynt i'r cwmwl.
35. A daeth llef allan o'r cwmwl, gan ddywedyd, Hwn yw fy Mab annwyl; gwrandewch ef.
36. Ac wedi bod y llef, cafwyd yr Iesu yn unig. A hwy a gelasant, ac ni fynegasant i neb y dyddiau hynny ddim o'r pethau a welsent.
37. A darfu drannoeth, pan ddaethant i waered o'r mynydd, i dyrfa fawr gyfarfod ag ef.
38. Ac wele, gŵr o'r dyrfa a ddolefodd, gan ddywedyd, O Athro, yr wyf yn atolwg i ti, edrych ar fy mab; canys fy unig‐anedig yw.
39. Ac wele, y mae ysbryd yn ei gymryd ef, ac yntau yn ddisymwth yn gweiddi; ac y mae'n ei ddryllio ef, hyd oni falo ewyn; a braidd yr ymedy oddi wrtho, wedi iddo ei ysigo ef.
40. Ac mi a ddeisyfais ar dy ddisgyblion di ei fwrw ef allan; ac nis gallasant.
41. A'r Iesu gan ateb a ddywedodd, O genhedlaeth anffyddlon a throfaus, pa hyd y byddaf gyda chwi, ac y'ch goddefaf? dwg dy fab yma.
42. Ac fel yr oedd efe eto yn dyfod, y cythraul a'i rhwygodd ef, ac a'i drylliodd: a'r Iesu a geryddodd yr ysbryd aflan, ac a iachaodd y bachgen, ac a'i rhoddes ef i'w dad.
43. A brawychu a wnaethant oll gan fawredd Duw. Ac a phawb yn rhyfeddu am yr holl bethau a wnaethai'r Iesu, efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion,
44. Gosodwch chwi yn eich clustiau yr ymadroddion hyn: canys Mab y dyn a draddodir i ddwylo dynion.
45. Eithr hwy ni wybuant y gair hwn, ac yr oedd yn guddiedig oddi wrthynt, fel nas deallent ef: ac yr oedd arnynt arswyd ymofyn ag ef am y gair hwn.
46. A dadl a gyfododd yn eu plith, pwy a fyddai fwyaf ohonynt.