Luc 9:28-31 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

28. A bu, ynghylch wyth niwrnod wedi'r geiriau hyn, gymryd ohono ef Pedr, ac Ioan, ac Iago, a myned i fyny i'r mynydd i weddïo.

29. Ac fel yr oedd efe yn gweddïo, gwedd ei wynepryd ef a newidiwyd, a'i wisg oedd yn wen ddisglair.

30. Ac wele, dau ŵr a gydymddiddanodd ag ef, y rhai oedd Moses ac Eleias:

31. Y rhai a ymddangosasant mewn gogoniant, ac a ddywedasant am ei ymadawiad ef, yr hwn a gyflawnai efe yn Jerwsalem.

Luc 9