Luc 8:8-25 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

8. A pheth arall a syrthiodd ar dir da; ac a eginodd, ac a ddug ffrwyth ar ei ganfed. Wrth ddywedyd y pethau hyn, efe a lefodd, Y neb sydd â chlustiau ganddo i wrando, gwrandawed.

9. A'i ddisgyblion a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Pa ddameg oedd hon?

10. Yntau a ddywedodd, I chwi y rhoddwyd gwybod dirgeloedd teyrnas Dduw; eithr i eraill ar ddamhegion; fel yn gweled na welant, ac yn clywed na ddeallant.

11. A dyma'r ddameg: Yr had yw gair Duw.

12. A'r rhai ar ymyl y ffordd, ydyw'r rhai sydd yn gwrando, wedi hynny y mae'r diafol yn dyfod, ac yn dwyn ymaith y gair o'u calon hwynt, rhag iddynt gredu, a bod yn gadwedig.

13. A'r rhai ar y graig, yw'r rhai pan glywant, a dderbyniant y gair yn llawen; a'r rhai hyn nid oes ganddynt wreiddyn, y rhai sydd yn credu dros amser, ac yn amser profedigaeth yn cilio.

14. A'r hwn a syrthiodd ymysg drain, yw'r rhai a wrandawsant; ac wedi iddynt fyned ymaith, hwy a dagwyd gan ofalon, a golud, a melyswedd buchedd, ac nid ydynt yn dwyn ffrwyth i berffeithrwydd.

15. A'r hwn ar y tir da, yw'r rhai hyn, y rhai â chalon hawddgar a da, ydynt yn gwrando'r gair, ac yn ei gadw, ac yn dwyn ffrwyth trwy amynedd.

16. Nid yw neb wedi golau cannwyll, yn ei chuddio hi â llestr, neu yn ei dodi dan wely; eithr yn ei gosod ar ganhwyllbren, fel y caffo'r rhai a ddêl i mewn weled y goleuni.

17. Canys nid oes dim dirgel, a'r ni bydd amlwg; na dim cuddiedig, a'r nis gwybyddir, ac na ddaw i'r golau.

18. Edrychwch am hynny pa fodd y clywoch: canys pwy bynnag y mae ganddo, y rhoddir iddo; a'r neb nid oes ganddo, ie, yr hyn y mae'n tybied ei fod ganddo, a ddygir oddi arno.

19. Daeth ato hefyd ei fam a'i frodyr; ac ni allent ddyfod hyd ato gan y dorf.

20. A mynegwyd iddo, gan rai, yn dywedyd, Y mae dy fam a'th frodyr yn sefyll allan, yn ewyllysio dy weled.

21. Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Fy mam i a'm brodyr i yw'r rhai hyn sydd yn gwrando gair Duw, ac yn ei wneuthur.

22. A bu ar ryw ddiwrnod, ac efe a aeth i long, efe a'i ddisgyblion: a dywedodd wrthynt, Awn trosodd i'r tu hwnt i'r llyn. A hwy a gychwynasant.

23. Ac fel yr oeddynt yn hwylio, efe a hunodd: a chawod o wynt a ddisgynnodd ar y llyn; ac yr oeddynt yn llawn o ddwfr, ac mewn enbydrwydd.

24. A hwy a aethant ato, ac a'i deffroesant ef, gan ddywedyd, O Feistr, Feistr, darfu amdanom. Ac efe a gyfododd, ac a geryddodd y gwynt a'r tonnau dwfr: a hwy a beidiasant, a hi a aeth yn dawel.

25. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa le y mae eich ffydd chwi? A hwy wedi ofni, a ryfeddasant, gan ddywedyd wrth ei gilydd, Pwy yw hwn, gan ei fod yn gorchymyn i'r gwyntoedd ac i'r dwfr hefyd, a hwythau yn ufuddhau iddo?

Luc 8