8. A pheth arall a syrthiodd ar dir da; ac a eginodd, ac a ddug ffrwyth ar ei ganfed. Wrth ddywedyd y pethau hyn, efe a lefodd, Y neb sydd รข chlustiau ganddo i wrando, gwrandawed.
9. A'i ddisgyblion a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Pa ddameg oedd hon?
10. Yntau a ddywedodd, I chwi y rhoddwyd gwybod dirgeloedd teyrnas Dduw; eithr i eraill ar ddamhegion; fel yn gweled na welant, ac yn clywed na ddeallant.
11. A dyma'r ddameg: Yr had yw gair Duw.