Luc 8:30-40 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

30. A'r Iesu a ofynnodd iddo, gan ddywedyd, Beth yw dy enw di? Yntau a ddywedodd, Lleng: canys llawer o gythreuliaid a aethent iddo ef.

31. A hwy a ddeisyfasant arno, na orchmynnai iddynt fyned i'r dyfnder.

32. Ac yr oedd yno genfaint o foch lawer yn pori ar y mynydd: a hwynt‐hwy a atolygasant iddo adael iddynt fyned i mewn i'r rhai hynny. Ac efe a adawodd iddynt.

33. A'r cythreuliaid a aethant allan o'r dyn, ac a aethant i mewn i'r moch: a'r genfaint a ruthrodd oddi ar y dibyn i'r llyn, ac a foddwyd.

34. A phan welodd y meichiaid yr hyn a ddarfuasai, hwy a ffoesant, ac a aethant, ac a fynegasant yn y ddinas, ac yn y wlad.

35. A hwy a aethant allan i weled y peth a wnaethid; ac a ddaethant at yr Iesu, ac a gawsant y dyn, o'r hwn yr aethai'r cythreuliaid allan, yn ei ddillad, a'i iawn bwyll, yn eistedd wrth draed yr Iesu: a hwy a ofnasant.

36. A'r rhai a welsent, a fynegasant hefyd iddynt pa fodd yr iachasid y cythreulig.

37. A'r holl liaws o gylch gwlad y Gadareniaid a ddymunasant arno fyned ymaith oddi wrthynt; am eu bod mewn ofn mawr. Ac efe wedi myned i'r llong, a ddychwelodd.

38. A'r gŵr o'r hwn yr aethai'r cythreuliaid allan, a ddeisyfodd arno gael bod gydag ef: eithr yr Iesu a'i danfonodd ef ymaith, gan ddywedyd,

39. Dychwel i'th dŷ, a dangos faint o bethau a wnaeth Duw i ti. Ac efe a aeth, dan bregethu trwy gwbl o'r ddinas, faint a wnaethai'r Iesu iddo.

40. A bu, pan ddychwelodd yr Iesu, dderbyn o'r bobl ef: canys yr oeddynt oll yn disgwyl amdano ef.

Luc 8