26. A hwy a hwyliasant i wlad y Gadareniaid, yr hon sydd o'r tu arall, ar gyfer Galilea.
27. Ac wedi iddo fyned allan i dir, cyfarfu ag ef ryw ŵr o'r ddinas, yr hwn oedd ganddo gythreuliaid er ys talm o amser; ac ni wisgai ddillad, ac nid arhosai mewn tŷ, ond yn y beddau.
28. Hwn, wedi gweled yr Iesu, a dolefain, a syrthiodd i lawr ger ei fron ef, ac a ddywedodd â llef uchel, Beth sydd i mi â thi, O Iesu, Fab Duw goruchaf? yr wyf yn atolwg i ti na'm poenech.
29. (Canys efe a orchmynasai i'r ysbryd aflan ddyfod allan o'r dyn. Canys llawer o amserau y cipiasai ef: ac efe a gedwid yn rhwym â chadwynau, ac â llyffetheiriau; ac wedi dryllio'r rhwymau, efe a yrrwyd gan y cythraul i'r diffeithwch.)
30. A'r Iesu a ofynnodd iddo, gan ddywedyd, Beth yw dy enw di? Yntau a ddywedodd, Lleng: canys llawer o gythreuliaid a aethent iddo ef.
31. A hwy a ddeisyfasant arno, na orchmynnai iddynt fyned i'r dyfnder.
32. Ac yr oedd yno genfaint o foch lawer yn pori ar y mynydd: a hwynt‐hwy a atolygasant iddo adael iddynt fyned i mewn i'r rhai hynny. Ac efe a adawodd iddynt.
33. A'r cythreuliaid a aethant allan o'r dyn, ac a aethant i mewn i'r moch: a'r genfaint a ruthrodd oddi ar y dibyn i'r llyn, ac a foddwyd.
34. A phan welodd y meichiaid yr hyn a ddarfuasai, hwy a ffoesant, ac a aethant, ac a fynegasant yn y ddinas, ac yn y wlad.