12. A'r rhai ar ymyl y ffordd, ydyw'r rhai sydd yn gwrando, wedi hynny y mae'r diafol yn dyfod, ac yn dwyn ymaith y gair o'u calon hwynt, rhag iddynt gredu, a bod yn gadwedig.
13. A'r rhai ar y graig, yw'r rhai pan glywant, a dderbyniant y gair yn llawen; a'r rhai hyn nid oes ganddynt wreiddyn, y rhai sydd yn credu dros amser, ac yn amser profedigaeth yn cilio.
14. A'r hwn a syrthiodd ymysg drain, yw'r rhai a wrandawsant; ac wedi iddynt fyned ymaith, hwy a dagwyd gan ofalon, a golud, a melyswedd buchedd, ac nid ydynt yn dwyn ffrwyth i berffeithrwydd.
15. A'r hwn ar y tir da, yw'r rhai hyn, y rhai รข chalon hawddgar a da, ydynt yn gwrando'r gair, ac yn ei gadw, ac yn dwyn ffrwyth trwy amynedd.