Luc 7:24-37 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

24. Ac wedi i genhadau Ioan fyned ymaith, efe a ddechreuodd ddywedyd wrth y bobloedd am Ioan. Beth yr aethoch allan i'r diffeithwch i'w weled? Ai corsen yn siglo gan wynt?

25. Ond pa beth yr aethoch allan i'w weled? Ai dyn wedi ei ddilladu â dillad esmwyth? Wele, y rhai sydd yn arfer dillad anrhydeddus, a moethau, mewn palasau brenhinoedd y maent.

26. Eithr beth yr aethoch allan i'w weled? Ai proffwyd? Yn ddiau meddaf i chwi, a llawer mwy na phroffwyd.

27. Hwn yw efe am yr un yr ysgrifennwyd, Wele, yr wyf fi yn anfon fy nghennad o flaen dy wyneb, yr hwn a baratoa dy ffordd o'th flaen.

28. Canys meddaf i chwi, Ymhlith y rhai a aned o wragedd, nid oes broffwyd mwy nag Ioan Fedyddiwr: eithr yr hwn sydd leiaf yn nheyrnas Dduw, sydd fwy nag ef.

29. A'r holl bobl a'r oedd yn gwrando, a'r publicanod, a gyfiawnhasant Dduw, gwedi eu bedyddio â bedydd Ioan.

30. Eithr y Phariseaid a'r cyfreithwyr yn eu herbyn eu hunain a ddiystyrasant gyngor Duw, heb eu bedyddio ganddo.

31. A dywedodd yr Arglwydd, I bwy gan hynny y cyffelybaf ddynion y genhedlaeth hon? ac i ba beth y maent yn debyg?

32. Tebyg ydynt i blant yn eistedd yn y farchnad, ac yn llefain wrth ei gilydd, ac yn dywedyd, Canasom bibau i chwi, ac ni ddawnsiasoch; cwynfanasom i chwi, ac nid wylasoch.

33. Canys daeth Ioan Fedyddiwr heb na bwyta bara, nac yfed gwin; a chwi a ddywedwch, Y mae cythraul ganddo.

34. Daeth Mab y dyn yn bwyta ac yn yfed; ac yr ydych yn dywedyd, Wele ddyn glwth, ac yfwr gwin, cyfaill publicanod a phechaduriaid.

35. A doethineb a gyfiawnhawyd gan bawb o'i phlant.

36. Ac un o'r Phariseaid a ddymunodd arno fwyta gydag ef: ac yntau a aeth i dŷ'r Pharisead, ac a eisteddodd i fwyta.

37. Ac wele, gwraig yn y ddinas, yr hon oedd bechadures, pan wybu hi fod yr Iesu yn eistedd ar y bwrdd yn nhŷ'r Pharisead, a ddug flwch o ennaint:

Luc 7