Luc 7:11-24 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

11. A bu drannoeth, iddo ef fyned i ddinas a elwid Nain; a chydag ef yr aeth llawer o'i ddisgyblion, a thyrfa fawr.

12. A phan ddaeth efe yn agos at borth y ddinas, wele, un marw a ddygid allan, yr hwn oedd unig fab ei fam, a honno yn weddw: a bagad o bobl y ddinas oedd gyda hi.

13. A'r Arglwydd pan welodd hi, a gymerodd drugaredd arni, ac a ddywedodd wrthi, Nac wyla.

14. A phan ddaeth atynt, efe a gyffyrddodd â'r elor: a'r rhai oedd yn ei dwyn, a safasant. Ac efe a ddywedodd, Y mab ieuanc, yr wyf yn dywedyd wrthyt, Cyfod.

15. A'r marw a gyfododd yn ei eistedd, ac a ddechreuodd lefaru. Ac efe a'i rhoddes i'w fam.

16. Ac ofn a ddaeth ar bawb: a hwy a ogoneddasant Dduw, gan ddywedyd, Proffwyd mawr a gyfododd yn ein plith; ac, Ymwelodd Duw â'i bobl.

17. A'r gair hwn a aeth allan amdano trwy holl Jwdea, a thrwy gwbl o'r wlad oddi amgylch.

18. A'i ddisgyblion a fynegasant i Ioan hyn oll.

19. Ac Ioan, wedi galw rhyw ddau o'i ddisgyblion ato, a anfonodd at yr Iesu, gan ddywedyd, Ai ti yw'r hwn sydd yn dyfod? ai un arall yr ŷm yn ei ddisgwyl?

20. A'r gwŷr pan ddaethant ato, a ddywedasant, Ioan Fedyddiwr a'n danfonodd ni atat ti, gan ddywedyd, Ai ti yw'r hwn sydd yn dyfod? ai arall yr ŷm yn ei ddisgwyl?

21. A'r awr honno efe a iachaodd lawer oddi wrth glefydau, a phlâu, ac ysbrydion drwg; ac i lawer o ddeillion y rhoddes efe eu golwg.

22. A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Ewch, a mynegwch i Ioan y pethau a welsoch ac a glywsoch; fod y deillion yn gweled eilwaith, y cloffion yn rhodio, y gwahanglwyfus wedi eu glanhau, y byddariaid yn clywed, y meirw yn cyfodi, y tlodion yn derbyn yr efengyl.

23. A gwyn ei fyd y neb ni rwystrir ynof fi.

24. Ac wedi i genhadau Ioan fyned ymaith, efe a ddechreuodd ddywedyd wrth y bobloedd am Ioan. Beth yr aethoch allan i'r diffeithwch i'w weled? Ai corsen yn siglo gan wynt?

Luc 7