Luc 6:1-16 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A bu ar yr ail prif Saboth, fyned ohono trwy'r ŷd: a'i ddisgyblion a dynasant y tywys, ac a'u bwytasant, gwedi eu rhwbio â'u dwylo.

2. A rhai o'r Phariseaid a ddywedasant wrthynt, Paham yr ydych yn gwneuthur yr hyn nid yw gyfreithlon ei wneuthur ar y Sabothau?

3. A'r Iesu gan ateb iddynt a ddywedodd, Oni ddarllenasoch hyn chwaith, yr hyn a wnaeth Dafydd, pan oedd chwant bwyd arno ef, a'r rhai oedd gydag ef;

4. Y modd yr aeth efe i mewn i dŷ Dduw, ac y cymerth ac y bwytaodd y bara gosod, ac a'i rhoddes hefyd i'r rhai oedd gydag ef; yr hwn nid yw gyfreithlon ei fwyta, ond i'r offeiriaid yn unig?

5. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y mae Mab y dyn yn Arglwydd ar y Saboth hefyd.

6. A bu hefyd ar Saboth arall, iddo fyned i mewn i'r synagog, ac athrawiaethu: ac yr oedd yno ddyn a'i law ddeau wedi gwywo.

7. A'r ysgrifenyddion a'r Phariseaid a'i gwyliasant ef, a iachâi efe ef ar y dydd Saboth; fel y caffent achwyn yn ei erbyn ef.

8. Eithr efe a wybu eu meddyliau hwynt, ac a ddywedodd wrth y dyn oedd â'r llaw wedi gwywo, Cyfod i fyny, a saf yn y canol. Ac efe a gyfododd i fyny, ac a safodd.

9. Yr Iesu am hynny a ddywedodd wrthynt, Myfi a ofynnaf i chwi, Beth sydd gyfreithlon ar y Sabothau? gwneuthur da, ynteu gwneuthur drwg? cadw einioes, ai colli?

10. Ac wedi edrych arnynt oll oddi amgylch, efe a ddywedodd wrth y dyn, Estyn dy law. Ac efe a wnaeth felly: a'i law ef a wnaed yn iach fel y llall.

11. A hwy a lanwyd o ynfydrwydd, ac a ymddiddanasant y naill wrth y llall, pa beth a wnaent i'r Iesu.

12. A bu yn y dyddiau hynny, fyned ohono ef allan i'r mynydd i weddïo; a pharhau ar hyd y nos yn gweddïo Duw.

13. A phan aeth hi yn ddydd, efe a alwodd ato ei ddisgyblion: ac ohonynt efe a etholodd ddeuddeg, y rhai hefyd a enwodd efe yn apostolion;

14. Simon (yr hwn hefyd a enwodd efe Pedr,) ac Andreas ei frawd; Iago, ac Ioan; Philip, a Bartholomeus;

15. Mathew, a Thomas; Iago mab Alffeus, a Simon a elwir Selotes;

16. Jwdas brawd Iago, a Jwdas Iscariot, yr hwn hefyd a aeth yn fradwr.

Luc 6