Luc 5:1-13 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Bu hefyd, a'r bobl yn pwyso ato i wrando gair Duw, yr oedd yntau yn sefyll yn ymyl llyn Gennesaret;

2. Ac efe a welai ddwy long yn sefyll wrth y llyn: a'r pysgodwyr a aethent allan ohonynt, ac oeddynt yn golchi eu rhwydau.

3. Ac efe a aeth i mewn i un o'r llongau, yr hon oedd eiddo Simon, ac a ddymunodd arno wthio ychydig oddi wrth y tir. Ac efe a eisteddodd, ac a ddysgodd y bobloedd allan o'r llong.

4. A phan beidiodd â llefaru, efe a ddywedodd wrth Simon, Gwthia i'r dwfn, a bwriwch eich rhwydau am helfa.

5. A Simon a atebodd ac a ddywedodd wrtho, O Feistr, er i ni boeni ar hyd y nos, ni ddaliasom ni ddim: eto ar dy air di mi a fwriaf y rhwyd.

6. Ac wedi iddynt wneuthur hynny, hwy a ddaliasant liaws mawr o bysgod: a'u rhwyd hwynt a rwygodd.

7. A hwy a amneidiasant ar eu cyfeillion, oedd yn y llong arall, i ddyfod i'w cynorthwyo hwynt. A hwy a ddaethant; a llanwasant y ddwy long, onid oeddynt hwy ar soddi.

8. A Simon Pedr, pan welodd hynny, a syrthiodd wrth liniau'r Iesu, gan ddywedyd, Dos ymaith oddi wrthyf; canys dyn pechadurus wyf fi, O Arglwydd.

9. Oblegid braw a ddaethai arno ef, a'r rhai oll oedd gydag ef, oherwydd yr helfa bysgod a ddaliasent hwy;

10. A'r un ffunud ar Iago ac Ioan hefyd, meibion Sebedeus, y rhai oedd gyfranogion â Simon. A dywedodd yr Iesu wrth Simon, Nac ofna: o hyn allan y deli ddynion.

11. Ac wedi iddynt ddwyn y llongau i dir, hwy a adawsant bob peth, ac a'i dilynasant ef.

12. A bu, fel yr oedd efe mewn rhyw ddinas, wele ŵr yn llawn o'r gwahanglwyf: a phan welodd efe yr Iesu, efe a syrthiodd ar ei wyneb, ac a ymbiliodd ag ef, gan ddywedyd, O Arglwydd, os ewyllysi, ti a elli fy nglanhau.

13. Yntau a estynnodd ei law, ac a gyffyrddodd ag ef, gan ddywedyd, Yr wyf yn ewyllysio; bydd lân. Ac yn ebrwydd y gwahanglwyf a aeth ymaith oddi wrtho.

Luc 5