Luc 3:5-16 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

5. Pob pant a lenwir, a phob mynydd a bryn a ostyngir, a'r gŵyrgeimion a wneir yn union, a'r geirwon yn ffyrdd gwastad:

6. A phob cnawd a wêl iachawdwriaeth Duw.

7. Am hynny efe a ddywedodd wrth y bobl oedd yn dyfod i'w bedyddio ganddo, O genhedlaeth gwiberod, pwy a'ch rhagrybuddiodd chwi i ffoi oddi wrth y digofaint sydd ar ddyfod?

8. Dygwch gan hynny ffrwythau addas i edifeirwch; ac na ddechreuwch ddywedyd ynoch eich hunain, Y mae gennym ni Abraham yn dad: canys yr ydwyf yn dywedyd i chwi, y dichon Duw o'r cerrig hyn godi plant i Abraham.

9. Ac yr awr hon y mae'r fwyell wedi ei gosod ar wreiddyn y prennau: pob pren gan hynny a'r nid yw yn dwyn ffrwyth da, a gymynir i lawr, ac a fwrir yn tân.

10. A'r bobloedd a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Pa beth gan hynny a wnawn ni?

11. Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Y neb sydd ganddo ddwy bais, rhodded i'r neb sydd heb yr un; a'r neb sydd ganddo fwyd, gwnaed yr un modd.

12. A'r publicanod hefyd a ddaethant i'w bedyddio, ac a ddywedasant wrtho, Athro, beth a wnawn ni?

13. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Na cheisiwch ddim mwy nag sydd wedi ei osod i chwi.

14. A'r milwyr hefyd a ofynasant iddo, gan ddywedyd, A pha beth a wnawn ninnau? Ac efe a ddywedodd wrthynt, Na fyddwch draws wrth neb, ac na cham-achwynwch ar neb; a byddwch fodlon i'ch cyflogau.

15. Ac fel yr oedd y bobl yn disgwyl, a phawb yn meddylied yn eu calonnau am Ioan, ai efe oedd y Crist;

16. Ioan a atebodd, gan ddywedyd wrthynt oll, Myfi yn ddiau ydwyf yn eich bedyddio chwi â dwfr: ond y mae un cryfach na myfi yn dyfod, yr hwn nid wyf fi deilwng i ddatod carrai ei esgidiau: efe a'ch bedyddia chwi â'r Ysbryd Glân, ac â thân.

Luc 3