Luc 3:17-24 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

17. Yr hwn y mae ei wyntyll yn ei law, ac efe a lwyr lanha ei lawr dyrnu, ac a gasgl y gwenith i'w ysgubor; ond yr us a lysg efe â thân anniffoddadwy.

18. A llawer o bethau eraill a gynghorodd efe, ac a bregethodd i'r bobl.

19. Ond Herod y tetrarch, pan geryddwyd ef ganddo am Herodias gwraig Philip ei frawd, ac am yr holl ddrygioni a wnaethai Herod,

20. A chwanegodd hyn hefyd heblaw'r cwbl, ac a gaeodd ar Ioan yn y carchar.

21. A bu, pan oeddid yn bedyddio'r holl bobl, a'r Iesu yn ei fedyddio hefyd, ac yn gweddïo, agoryd y nef,

22. A disgyn o'r Ysbryd Glân mewn rhith corfforol, megis colomen, arno ef; a dyfod llef o'r nef yn dywedyd, Ti yw fy annwyl Fab; ynot ti y'm bodlonwyd.

23. A'r Iesu ei hun oedd ynghylch dechrau ei ddengmlwydd ar hugain oed, mab (fel y tybid) i Joseff, fab Eli,

24. Fab Mathat, fab Lefi, fab Melchi, fab Janna, fab Joseff,

Luc 3