Luc 3:16-20 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

16. Ioan a atebodd, gan ddywedyd wrthynt oll, Myfi yn ddiau ydwyf yn eich bedyddio chwi â dwfr: ond y mae un cryfach na myfi yn dyfod, yr hwn nid wyf fi deilwng i ddatod carrai ei esgidiau: efe a'ch bedyddia chwi â'r Ysbryd Glân, ac â thân.

17. Yr hwn y mae ei wyntyll yn ei law, ac efe a lwyr lanha ei lawr dyrnu, ac a gasgl y gwenith i'w ysgubor; ond yr us a lysg efe â thân anniffoddadwy.

18. A llawer o bethau eraill a gynghorodd efe, ac a bregethodd i'r bobl.

19. Ond Herod y tetrarch, pan geryddwyd ef ganddo am Herodias gwraig Philip ei frawd, ac am yr holl ddrygioni a wnaethai Herod,

20. A chwanegodd hyn hefyd heblaw'r cwbl, ac a gaeodd ar Ioan yn y carchar.

Luc 3