Luc 24:7-18 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

7. Gan ddywedyd, Rhaid yw rhoi Mab y dyn yn nwylo dynion pechadurus, a'i groeshoelio, a'r trydydd dydd atgyfodi.

8. A hwy a gofiasant ei eiriau ef;

9. Ac a ddychwelasant oddi wrth y bedd, ac a fynegasant hyn oll i'r un ar ddeg, ac i'r lleill oll.

10. A Mair Magdalen, a Joanna, a Mair mam Iago, a'r lleill gyda hwynt, oedd y rhai a ddywedasant y pethau hyn wrth yr apostolion.

11. A'u geiriau a welid yn eu golwg hwynt fel gwegi, ac ni chredasant iddynt.

12. Eithr Pedr a gododd i fyny, ac a redodd at y bedd; ac wedi ymgrymu, efe a ganfu'r llieiniau wedi eu gosod o'r neilltu; ac a aeth ymaith, gan ryfeddu rhyngddo ac ef ei hun am y peth a ddarfuasai.

13. Ac wele, dau ohonynt oedd yn myned y dydd hwnnw i dref a'i henw Emaus, yr hon oedd ynghylch tri ugain ystad oddi wrth Jerwsalem.

14. Ac yr oeddynt hwy yn ymddiddan â'i gilydd am yr holl bethau hyn a ddigwyddasent.

15. A bu, fel yr oeddynt yn ymddiddan, ac yn ymofyn â'i gilydd, yr Iesu ei hun hefyd a nesaodd, ac a aeth gyda hwynt.

16. Eithr eu llygaid hwynt a ataliwyd, fel nas adwaenent ef.

17. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa ryw ymadroddion yw'r rhai hyn yr ydych yn eu bwrw at ei gilydd, dan rodio, ac yn wyneptrist?

18. Ac un ohonynt, a'i enw Cleopas, gan ateb a ddywedodd wrtho, A wyt ti yn unig yn ymdeithydd yn Jerwsalem, ac ni wybuost y pethau a wnaethpwyd ynddi hi yn y dyddiau hyn?

Luc 24