Luc 24:46-53 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

46. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Felly yr ysgrifennwyd, ac felly yr oedd raid i Grist ddioddef, a chyfodi o feirw y trydydd dydd:

47. A phregethu edifeirwch a maddeuant pechodau yn ei enw ef ymhlith yr holl genhedloedd, gan ddechrau yn Jerwsalem.

48. Ac yr ydych chwi yn dystion o'r pethau hyn.

49. Ac wele, yr ydwyf fi yn anfon addewid fy Nhad arnoch: eithr arhoswch chwi yn ninas Jerwsalem, hyd oni wisger chwi รข nerth o'r uchelder.

50. Ac efe a'u dug hwynt allan hyd ym Methania; ac a gododd ei ddwylo, ac a'u bendithiodd hwynt.

51. Ac fe a ddarfu, tra oedd efe yn eu bendithio hwynt, ymadael ohono ef oddi wrthynt, ac efe a ddygwyd i fyny i'r nef.

52. Ac wedi iddynt ei addoli ef, hwy a ddychwelasant i Jerwsalem, gyda llawenydd mawr:

53. Ac yr oeddynt yn wastadol yn y deml, yn moli ac yn bendithio Duw. Amen.

Luc 24