28. Ac yr oeddynt yn nesáu i'r dref lle yr oeddynt yn myned: ac yntau a gymerth arno ei fod yn myned ymhellach.
29. A hwy a'i cymellasant ef, gan ddywedyd, Aros gyda ni; canys y mae hi yn hwyrhau, a'r dydd yn darfod. Ac efe a aeth i mewn i aros gyda hwynt.
30. A darfu, ac efe yn eistedd gyda hwynt, efe a gymerodd fara, ac a'i bendithiodd, ac a'i torrodd, ac a'i rhoddes iddynt.
31. A'u llygaid hwynt a agorwyd, a hwy a'i hadnabuant ef: ac efe a ddiflannodd allan o'u golwg hwynt.
32. A hwy a ddywedasant wrth ei gilydd, Onid oedd ein calon ni yn llosgi ynom tra ydoedd efe yn ymddiddan â ni ar y ffordd, a thra ydoedd efe yn agoryd i ni yr ysgrythurau?
33. A hwy a godasant yr awr honno, ac a ddychwelasant i Jerwsalem, ac a gawsant yr un ar ddeg wedi ymgasglu ynghyd, a'r sawl oedd gyda hwynt,
34. Yn dywedyd, Yr Arglwydd a gyfododd yn wir, ac a ymddangosodd i Simon.
35. A hwythau a adroddasant y pethau a wnaethid ar y ffordd, a pha fodd yr adnabuwyd ef ganddynt wrth doriad y bara.
36. Ac a hwy yn dywedyd y pethau hyn, yr Iesu ei hun a safodd yn eu canol hwynt, ac a ddywedodd wrthynt, Tangnefedd i chwi.
37. Hwythau, wedi brawychu ac ofni, a dybiasant weled ohonynt ysbryd.
38. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Paham y'ch trallodir? a phaham y mae meddyliau yn codi yn eich calonnau?
39. Edrychwch fy nwylo a'm traed, mai myfi fy hun ydyw: teimlwch fi, a gwelwch: canys nid oes gan ysbryd gnawd ac esgyrn, fel y gwelwch fod gennyf fi.
40. Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a ddangosodd iddynt ei ddwylo a'i draed.
41. Ac a hwy eto heb gredu gan lawenydd, ac yn rhyfeddu, efe a ddywedodd wrthynt, A oes gennych chwi yma ddim bwyd?
42. A hwy a roesant iddo ddarn o bysgodyn wedi ei rostio, ac o ddil mêl.
43. Yntau a'i cymerodd, ac a'i bwytaodd yn eu gŵydd hwynt.
44. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Dyma'r geiriau a ddywedais i wrthych, pan oeddwn eto gyda chwi, bod yn rhaid cyflawni pob peth a ysgrifennwyd yng nghyfraith Moses, a'r proffwydi, a'r salmau, amdanaf fi.