Luc 24:1-4 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A'r dydd cyntaf o'r wythnos, ar y cynddydd, hwy a ddaethant at y bedd, gan ddwyn y peraroglau a baratoesent, a rhai gyda hwynt.

2. A hwy a gawsant y maen wedi ei dreiglo ymaith oddi wrth y bedd.

3. Ac wedi iddynt fyned i mewn, ni chawsant gorff yr Arglwydd Iesu.

4. A bu, a hwy yn petruso am y peth hwn, wele, dau ŵr a safodd yn eu hymyl mewn gwisgoedd disglair.

Luc 24